Neidio i’r cynnwys
Achub y WorkiesYn ôl i’r ymgyrch

Eu clwb nhw.
Ein dyfodol ni.

Adeiladwyd y Workies gan bobl oedd eisiau rhywbeth gwell i’w cymuned.

Llun hanesyddol o bobl oedd yn gysylltiedig â sefydlu’r Workies
Mae hanes y Workies yn rhan o hanes y pentref.

Y glo a’r gymuned

Daeth gwaith y pyllau â phobl at ei gilydd yn y Tymbl. Roedd y gwaith yn galed ac yn beryglus. Roedd angen lle i gymdeithasu, dysgu, gorffwys a chefnogi’i gilydd.

Agorodd y Workies yn 1893. Mae wedi bod yn rhan o fywyd y pentref ers cenedlaethau: nosweithiau cerddoriaeth, chwaraeon, dathliadau, cyfeillgarwch ac atgofion teuluol.

Cadw’r hanes yn fyw

Mae’r adeilad yn bwysig, ond y bobl sy’n rhoi bywyd iddo. Dyn ni eisiau parchu’r hyn a adeiladodd y cenedlaethau blaenorol a rhoi defnydd iddo sy’n gwneud synnwyr heddiw.

Mae syniadau ar gyfer rhannu hanes y pentref a’r glowyr fel rhan o ddyfodol y Workies. Bydd angen cytuno ar gynllun a chyllid ar gyfer hynny.

Gwyliwch y stori

Mae rhai o’r ffilmiau’n cynnwys naratif Saesneg. Gweld y casgliad neu darllen y daith hanes ryngweithiol yn Saesneg.

Oes atgof gyda chi?

Llun, stori, tocyn, rhaglen neu atgof am noson dda? Byddai’n braf cael clywed. Anfonwch neges at hello@savetheworkies.com. Gallwch ysgrifennu yn Gymraeg neu Saesneg.