Neidio i’r cynnwys
Achub y WorkiesYn ôl i’r ymgyrch

Y cynllun i’r Workies.

Prynu’r adeilad. Cael y pethau hanfodol yn iawn. Ailagor fesul cam. Adeiladu rhywbeth fydd yn para.

Prynu drwy’r gymdeithas

Mae WCVA wedi cymeradwyo benthyciad o £200,000. Roedd y cynllun cymeradwy yn cynnwys £140,000 ar gyfer y pryniant a £60,000 ar gyfer ailagor ac adnewyddu. Mae’r pris a’r trefniadau cwblhau yn parhau’n destun gwaith y cyfreithwyr; nid yw’r pryniant wedi’i gwblhau.

Benthyciad yw hwn, felly bydd rhaid ei dalu’n ôl. Mae rhoddion misol yn helpu, ond mae angen incwm masnachu a rheolaeth dda hefyd.

Ailagor yn ddiogel

Y flaenoriaeth yw’r gwaith hanfodol: cyflwr yr adeilad, asbestos, trydan, tân, lleithder, yswiriant a’r caniatâd sydd ei angen. Bydd pa ystafelloedd all agor a phryd yn dibynnu ar ganlyniadau’r gwaith hwn.

Dyn ni’n gweithio gyda phobl leol a gweithwyr proffesiynol i baratoi cwmpas clir a chostau. Bydd lle i wirfoddolwyr helpu gyda gwaith addas pan fydd hi’n ddiogel gwneud hynny.

Y bar blaen: caffi a lle i gwrdd

Caffi yn y dydd a bar gyda’r nos, gyda naws gynnes a chroesawgar. Lle i gwrdd am goffi, dod â’r teulu, gweithio am ychydig neu fwynhau noson gyda ffrindiau.

Mae syniadau am le chwarae i blant, gemau a phartner coffi lleol. Cynigion yw’r rhain; mae angen costio, cynllunio a chytuno ar y trefniadau.

Y neuadd: mwy nag ystafell ddigwyddiadau

Dyn ni eisiau lle all weithio drwy’r wythnos: Pilates, ymarfer corff, gweithgareddau i bobl hŷn, chwaraeon, grwpiau lleol a digwyddiadau. Bydd llawr aml-bwrpas addas yn bwysig i wneud hynny’n bosib.

Mae’r syniadau ehangach yn cynnwys mwy o olau naturiol, adolygu lleoliad y gegin a dod â’r ystafelloedd newid yn ôl i ddefnydd. Bydd angen cyngor a chyllid cyn gwneud y gwaith.

Lan llofft: lle i’r gymuned

Dyn ni eisiau dod â’r hen ystafelloedd yn ôl i ddefnydd ar gyfer cyfarfodydd, cymorth, cyngor a gwaith. Mae newid defnydd preswyl yn golygu gwirio cynllunio, rheoliadau adeiladu, mynediad a diogelwch tân yn gyntaf.

Arian ar gyfer y camau nesaf

Mae benthyciadau, rhoddion, grantiau a chyfranddaliadau cymunedol yn bethau gwahanol. Ni fyddwn yn cyfrif cais am grant fel arian sydd wedi’i sicrhau.

Dyn ni’n gweithio gyda Cwmpas ar y camau nesaf ar gyfer cynnig cyfranddaliadau cymunedol. Nid yw cynnig ar agor eto. Bydd angen telerau a dogfennau clir cyn i unrhyw un fuddsoddi.

Gallwch gefnogi gyda rhodd nawr.