← Yn ôl i ddiweddariad y Workies Mudiad annibynnol i achub Workies y Tymbl

Stori go iawn am dafarn gymunedol yng Nghymru

“Rwy’n credu’n llwyr eich bod chi ar y trywydd iawn.”

Helpodd Huw Jones bentref o ddim ond 400 o bobl i achub ei unig gyfleuster cymunedol. Mae wedi ysgrifennu at y Tymbl gyda’r stori onest: yr arian, y gwaith, y camgymeriadau a’r hyn a ddaeth yn bosibl.

Menter Ty’n Llan, Llandwrog
Huw Jones Treasurer, Menter Ty’n Llan
Llandwrog, Gwynedd

Beth gyflawnodd eu cymuned

Mae gan Landwrog 400 o bobl. Mae gan y Tymbl tua 4,000.

£700,000+ wedi’i addo fel benthyciadau tymor byr gan 33 o bobl
£400,000 targed y cynnig siârs cymunedol mewn ymgyrch saith wythnos
£1m+ trosiant disgwyliedig bellach ar ôl yr ailddatblygiad llawn
£30k–£60k yr elw maent yn disgwyl ei wneud eleni

Dyma ffigurau Menter Ty’n Llan fel y’u nodwyd gan Huw yn ei lythyr. Nid rhagolwg ar gyfer y Workies ydynt. Maent yn dangos beth all perchnogaeth gymunedol drefnus ei wneud yn bosibl.

Cymraeg yn gyntaf. Dymuniad Huw, ac yn adlewyrchu cymuned Gymraeg y Tymbl.

Gan Huw Jones, Trysorydd Menter Ty’n Llan

Helo Scott

Roedd hi'n braf siarad â chi heddiw, clywed am yr ymgyrch i achub 'Workies' y Tymbl a rhannu rhywfaint o'n profiad ni o wneud rhywbeth tebyg yma yng Ngwynedd.

Rwy’n credu’n llwyr eich bod chi ar y trywydd iawn ac os gallwn ni helpu a rhannu mwy o feddyliau wrth i bethau fynd yn eu blaenau, mae croeso i chi gysylltu.

Fy sylwadau pennaf fyddai:

  • Ar bob cyfri, tynnwch ar atgofion cynnes pobl o'r lle yn ei anterth ond peidiwch â chyfyngu'ch hunain i'w gadw i fynd fel y mae neu fel yr oedd. Peidiwch ag ofni ei ailddychmygu o'r top i'r gwaelod fel y cyfleuster y byddai eich cymuned yn ei hoffi yn yr 21G a chredwch y gallwch chi gyflawni hynny.
  • Gwnewch yn siŵr eich bod chi'n cynnwys y gymuned gyfan o'r dechrau. Gwnewch yn glir y bydd yn gyfeillgar i deuluoedd ac yn amlbwrpas. Gofynnwch i bawb beth fyddent yn ei hoffi ohono a seiliwch eich cynlluniau ar yr ymatebion hynny. Gofynnwch hefyd beth fyddent yn fodlon ei wneud i helpu – gwirfoddoli? Buddsoddi? Rhedeg clybiau?
  • Ewch ati i greu cynllun busnes tymor canol sy'n adlewyrchu'r uchelgeisiau hynny – 7-10 mlynedd

Ein profiad ni yw hyn:

Cofiwch fod Llandwrog yn lle llawer llai na’r Tymbl – 400 o drigolion, nid 4,000.

Roedd ein tafarn wedi bod ar gau ers 2017 ac aeth ar werth yn ystod Covid ddechrau 2021. Y perygl oedd y byddai'n cael ei werthu fel tŷ preifat ac y byddai'r unig gyfleuster cymunedol oedd gennym yn cael ei golli am byth. Daeth grŵp bach at ei gilydd, a phenderfynu fod yn rhaid gwneud rhywbeth. Galwyd cyfarfod Zoom lle daeth 120 o bobl arlein. Penderfynon ni mai'r model Cymdeithas Budd Cymunedol oedd yr un a fyddai'n gweithio orau i ni. Beth oedd yn gyrru pob un ohonom oedd yr angen i wneud ein gorau dros ein cymuned, tra’n sicrhau fod gennym fodel busnes oedd yn mynd i weithio.

Yn y cyfarfod cyhoeddus cyntaf hwnnw, fe wnaethon ni wahodd addewidion ar ffurf benthyciadau 12 mis a fyddai'n caniatáu inni wneud cynnig am yr eiddo. Roedden ni'n synnu pan wnaeth 33 o bobl addo mwy na £700,000. Fe wnaeth hyn adael i ni gytuno ar bris gyda'r gwerthwr, a thra bod y gwaith cyfreithiol yn digwydd, i gychwyn creu'r Cynllun Busnes a'r Cynnig Siârs Cymunedol. Fe gawson ni lawer iawn o gymorth rhad ac am ddim gan Cwmpas wrth wneud hynny. Mabwysiadwyd y Rheolau model a grëwyd gan Sefydliad Plunkett fwy neu lai yn eu cyfanrwydd. Mae'r rhain wedi gweithio'n dda ac fe gawson ni gyngor da hefyd gan arbenigwyr a benodwyd ganddynt.

Fe wnaethon ni osod dyddiad cau o 7 wythnos i ni ein hunain o ddyddiad lansio'r Cynnig Siars er mwyn cyrraedd ein targed o £400,000 ac fe gafwyd ymgyrch gyhoeddusrwydd gyda fideos o gefnogaeth gan sêr llwyfan, chwaraeon a sgrin. Peidiwch â bod yn swil! Mae gan Gwm Gwendraeth enw a lle gwych ym mywyd a hanes Cymru. Fe gawson ni ein synnu gan faint o gefnogaeth ddaeth o'r tu allan i'r pentref. Daeth tua hanner o gylch o 25 milltir; chwarter o weddill Cymru a'r gweddill o bob cwr o'r byd. Roedd ganddon ni stori dda yr oedd pobl yn ei hoffi ac yn prynu mewn iddi.

Ar ôl cwblhau'r pryniant ym mis Mehefin 2021, heb orfod gofyn am y benthyciadau, dechreuon ni wneud cais am grantiau i ganiatáu inni osod to newydd ac ail-bwyntio waliau ac ati. Y pwynt hanfodol yw bod nifer o grantiau ar gael sydd wedi'u targedu'n benodol at sefydliadau sy'n bodoli i wasanaethu eu cymunedau. Dydyn nhw ddim yn cael eu rhoi'n awtomatig ac mae llawer iawn o waith yn gysylltiedig â gwneud y ceisiadau ond maen nhw’n agor y drws i gyfalaf ychwanegol y tu hwnt i'r hyn y gallwch ei godi o'r cynnig siârs. Mae cynlluniau grant newydd yn cael eu creu o bryd i'w gilydd. Roedden ni'n ddigon ffodus i fod yn un o'r sefydliadau cyntaf yng Nghymru i elwa o bolisi 'Levelling Up' Llywodraeth flaenorol y DU, ac rydym hefyd wedi llwyddo i sicrhau grantiau gan Lywodraeth Cymru ac yn fwy diweddar, y Loteri Genedlaethol.

O'r dechrau roedden ni eisiau adeilad wedi ei weddnewid a’i ymestyn, oedd yn ddeniadol, modern, ac addas i deuluoedd – nid dim ond y dafarn fel yr oedd – ond roedd pawb yn awyddus i ailagor cyn gynted â phosibl, gyda Nadolig 2021 fel y targed. Dyma lle daeth y gwirfoddolwyr i mewn – glanhau, garddio, peintio, cael y lle i ryw fath o siâp mewn pryd. Wedyn ailagor yr hen gegin erbyn y Pasg a chytuno ar gynllun gwaith ar gyfer y to. Ac fe lwyddon ni i gwblhau’r gwaith cyntaf yna heb orfod cau.

Dros y flwyddyn wedyn fe aethon ni ar ol grantiau, benthyciadau a chynnig siars arall cyn i ni gau ym mis Mehefin 2024 ar gyfer ein hadnewyddiad llawn a'n estyniad newydd, a gafodd eu cyflwyno o'r diwedd ym mis Tachwedd 2025.

Ers hynny rydym wedi bod yn masnachu'n llwyddiannus. Mae gennym dŷ bwyta deniadol sydd hefyd yn cael ei ddefnyddio fel lle cymunedol; mae pum ystafell wely ar gyfer gwely a brecwast; ail stafell gymunedol; maes parcio newydd a chegin newydd – ac mae’r tu mewn i’r dafarn wedi ei drawsnewid hefyd. Roedd yn gynllun mawr, costus – llawer drytach nag yr oedden ni wedi'i ragweld yn wreiddiol ond gyda chefnogaeth eang o amrywiaeth o ffynonellau mae'r gost wedi'i thalu. Fe wnaethon ni golledion ariannol bach yn ystod ein pedair blynedd gyntaf o fasnachu (ond gan gofio ein bod wedi bod ar gau am gyfanswm o 20 mis) ond eleni rydym yn disgwyl gwneud elw o rhwng £30,000 a £60,000 ar drosiant o fwy na £1 miliwn.

Mae rhai tafarndai cymunedol yn penderfynu chwilio am denant ar gyfer y busnes cyfan. Mae hynny'n sicr yn opsiwn i'w ystyried. Y fantais fawr yw ei fod yn lleihau'r baich ar y Pwyllgor sydd i gyd yn wirfoddolwyr. Mae eraill yn ceisio rhedeg y cyfan eu hunain – fel y gwnaethon ni yn wreiddiol, ond fe ffeindion ni ein bod yn colli arian ar ochr y bwyd.

Ein system nawr yw bod yr arlwyo (bwyd) yn cael ei wneud gan gwmni lleol annibynnol ar sail rhannu incwm a chostau tra ein bod ni'n rhedeg y bar a'r ystafelloedd, gan gyflogi rheolwr a staff i wneud hynny. Ni hefyd sy’n trefnu'r digwyddiadau cymunedol sy'n rhan bwysig o beth sy’n digwydd yma. Ar y cyfan mae’n gweithio'n dda, gan fod y cwmni arlwyo wedi'i ysgogi i wneud elw ac ry’n ni, yn y pen draw, yn cael rhan o hwnnw.

Bydd pob lle yn wahanol wrth gwrs. Ry’n ni mewn ardal sy'n cael busnes twristiaid sy'n rhoi hwb mawr i ni yn yr haf. Ond ry’n ni wedi synnu faint o fusnes sydd yna drwy gydol y flwyddyn. Mae pobl leol o ardal eang yn dod aton ni i fwyta, cymdeithasu a chael diod. Roedd yna alw mawr am bartïon Nadolig – yn rhedeg o ddiwedd mis Tachwedd i’r Flwyddyn Newydd – ac mae dathliadau pen-blwydd hefyd yn ymddangos yn beth eithaf mawr – i bob oed. Mae pobl isie trefnu te ar gyfer bedydd ac angladd a’r flwyddyn nesaf bydd gennym gwpl o briodasau hefyd. Nid oes gennym Sky Sport ond ry’n ni’n rhoi sylw i gemau Cymru a digwyddiadau mawr fel Cwpan y Byd.

Mae ein rhaglen digwyddiadau cymdeithasol a chymunedol yn helaeth ac yn cael ei chefnogi’n dda. Mae clybiau’n aml yn cael eu creu ar sail awgrymiadau sy’n dod gan aelodau’r gymuned. Ar hyn o bryd neu’n ddiweddar mae gennym grwpiau / clybiau / timau rheolaidd ar gyfer:

  • Pwl
  • Dartiau
  • Sgwrsio Cymraeg
  • Sgwrsio Ffrangeg
  • Garddio
  • Crosio
  • Grŵp pobl ifanc
  • Grŵp cerdded
  • Darllen
  • Bore coffi wythnosol
  • Ciniawau gaeaf wedi sybsideiddio
  • Gemau gwyddbwyll a bwrdd
  • Barddoniaeth
  • Cadw’n heini mewn cadair
  • Sesiynau cerddoriaeth werin

Mae ‘na noson gwis bob mis a digwyddiad cerddoriaeth o leiaf bob dau fis. Y mis diwethaf, cynhaliwyd eisteddfod dafarn a sesiynau Hel Atgofion lle daeth pobl â’u hen luniau a’u memorabilia. Dangoswyd ffilmiau â chysylltiadau lleol.

Mae’r gweithgaredd hwn i gyd ar ben y cymdeithasu arferol, naturiol sy’n digwydd dros beint, pryd o fwyd neu wydraid o win. DOEDD DIM O HYN YN DIGWYDD O’R BLAEN. Ni ellir gorliwio’r graddau y mae hyn i gyd yn cyfrannu at helpu pobl i wneud cysylltiadau a lleihau unigrwydd ac felly gwella llesiant yn gyffredinol.

Un rhybudd – mae’n sicr o fod yn llawer o waith. Ry’n ni’n ffodus bod gennym bwyllgor cryf o wahanol grwpiau oedran sy’n gallu dod â set o sgiliau gwerthfawr i’w defnyddio. Mae gennym is-bwyllgorau: Gweithredol; Adeilad; a Digwyddiadau a Chyhoeddusrwydd. Ar ben hynny mae gennym nifer o wirfoddolwyr eraill sy’n helpu’n rheolaidd gyda phethau fel cadw pibellau’r dafarn yn lân, garddio ac ati. Mae gweithrediadau dyddiol fel gwasanaeth bar, ac ati yn cael eu gwneud gan staff cyflogedig. Yn absenoldeb un person sy’n gyfrifol am bopeth, mae llawer yn disgyn ar ysgwyddau aelodau’r pwyllgor. Bydd angen iddyn nhw fod yn barod i ymroi am y tymor hir a theimlo bod ganddyn nhw gefnogaeth lawn y gymuned yn ogystal a bod yna dipyn o ‘rotation’ o bryd i'w gilydd.

Ond fe fydd yn brofiad anhygoel, gan gyfoethogi bywyd pawb.

Rwy'n gobeithio'n fawr y bydd y Tymbl yn dod at ei gilydd i wneud rhywbeth i’ch cymuned chi sy’n debyg i'r hyn rwy'n credu ein bod ni'n llwyddo i'w wneud yma.

Pob dymuniad da

Ar ran Menter Ty'n Llan

Huw Jones Trysorydd

Y dogfennau gwreiddiol

Darllenwch lythyr pedair tudalen Huw.

Mae’r Gymraeg yn ymddangos gyntaf ar gais Huw ac i adlewyrchu cymuned Gymraeg y Tymbl. Mae’r fersiynau PDF Cymraeg a Saesneg ar gael yma.